Canlyniadau Chwilio - Bono, Edward de
Edward de Bono
| dateformat = dmy }} Meddyg, seicolegydd, awdur, dyfeisiwr ac athronydd Maltaidd oedd Edward Charles Francis Publius de Bono (19 Mai 1933 – 9 Mehefin 2021). Cychwynnodd e'r term "meddwl ochrol". Ysgrifennodd de Bono ''Six Thinking Hats'' (1985), ac roedd yn gefnogwr o ddysgu meddwl fel pwnc mewn ysgolion.Cafodd Edward de Bono ei eni ym Malta. Cafodd ei addysg yng Ngholeg St Edward, Malta, yna enillodd radd feddygol o Brifysgol Malta. Aeth ymlaen fel Ysgolor Rhodes i Eglwys Crist, Rhydychen, lle enillodd MA mewn seicoleg a ffisioleg. Cynrychiolodd Rydychen mewn polo a gosod dau record canŵio. Cafodd gradd PhD mewn meddygaeth o Goleg y Drindod, Caergrawnt. Darparwyd gan Wikipedia