Canlyniadau Chwilio - Bly, Robert

Robert Bly

Bardd, ysgrifwr, a chyfieithydd o'r Unol Daleithiau oedd Robert Elwood Bly (23 Rhagfyr 192621 Tachwedd 2021) a fu'n nodedig fel un o arweinwyr y mudiad dynion mythopoeig. Cyhoeddodd ryw hanner cant o gyfrolau yn ystod ei oes.

Ganed ef yn Lac qui Parle County, yng ngorllewin Minnesota, i deulu o dras Norwyaidd. Graddiodd o'r uwchysgol yn ninas fechan Madison, Minnesota, ym 1944, a gwasanaethodd yn Llynges yr Unol Daleithiau am ddwy flynedd. Astudiodd yng Ngholeg St Olaf yn Northfield, Minnesota, am un flwyddyn cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Harvard. Derbyniodd ei radd baglor ym 1950, a threuliodd sawl blwyddyn yn Efrog Newydd yn darllen barddoniaeth. Aeth i Brifysgol Iowa i ennill gradd meistr o weithdy'r llenorion ym 1956, ac yna dychwelodd i Madison. Ym 1956–7 derbyniodd gymrodoriaeth i deithio i Norwy. Priododd â'r awdures Carol McLean ym 1955 a chawsant bedwar plentyn cyn iddynt ysgaru ym 1979. Ailbriododd Bly â therapydd o'r enw Ruth Ray ym 1980.

Ym 1958 cyd-sefydlodd Bly gylchgrawn barddoniaeth o'r enw ''The Fifties'', a fyddai'n para am sawl degawd arall dan yr enwau ''The Sixties'', ''The Seventies'', a ''The Eighties''. Daeth i'r amlwg am ei brotestiadau barddonol yn erbyn ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam, ac enillodd Wobr Genedlaethol y Llyfr am ei gyfrol ''The Light Around the Body'' (1968). Yn y 1970au ysgrifennodd 11 o lyfrau, gan gynnwys casgliadau o gerddi, ysgrifau, a chyfieithiadau, ac yn y 1980au a'r 1990au cyhoeddodd 27 cyfrol arall. Ei lyfr enwocaf, mae'n debyg, yw ''Iron John: A Book About Men'', cyfrol sydd yn tynnu ar fythau, chwedloniaeth, barddoniaeth, a'r gwyddorau mewn ymdrech yr awdur i ddadlau dros adfer gwrywdod. Ystyrir ''Iron John'' yn brif destun y mudiad dynion mythopoeig, a fu'n cynnig hunangymorth i ddynion Americanaidd.

Yn ogystal â'i farddoniaeth wreiddiol a'i ryddiaith, cyfieithai Bly sawl cerddi, nofel, a drama i'r Saesneg, gan gynnwys gweithiau'r beirdd Rainer Maria Rilke, Tomas Tranströmer, Pablo Neruda, ac Antonio Machado, y nofel ''Sult'' gan Knut Hamsun, a'r ddrama ''Peer Gynt'' gan Henrik Ibsen. Yn 2008 penodwyd Bly yn fardd llawryfog cyntaf Minnesota gan y Llywodraethwr Tim Pawlenty. Bu farw Robert Bly yn ei gartref ym Minneapolis yn 94 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    La doncella Rey : la reunión de lo masculino y lo femenino / gan Bly, Robert

    Cyhoeddwyd 2000.
    Libro