Llenor, golygydd, areithydd, a chyfarwyddwr theatr Norwyaidd oedd Bjørnstjerne Martinius Bjørnson (8 Rhagfyr1832 – 26 Ebrill1910) sy'n nodedig fel un o brif ffigurau llên Norwy yn y 19g, ynghyd â Henrik Ibsen, Alexander Kielland, a Jonas Lie. Ysgrifennodd farddoniaeth, dramâu, nofelau, a newyddiaduraeth. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1903 am "ei farddoniaeth aruchel, godidog ac amlochrog, a neilltuir bob amser gan newydd-deb ei hysbrydoliaeth a choethder eithriadol ei hysbryd". Cenir ei gerdd “Ja, vi elsker dette landet” yn eiriau anthem genedlaethol Norwy.
Darparwyd gan Wikipedia