Canlyniadau Chwilio - Berlin, Isaiah
Isaiah Berlin
Athronydd o Loegr oedd Syr Isaiah Berlin OM CBE FBA (6 Mehefin 1909 – 5 Tachwedd 1997). Ef oedd sylfaenydd ac Arlywydd gyntaf Coleg Wolfson, Rhydychen.Fe'i ganwyd yn Riga, oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia ar y pryd ond sydd bellach yn brifddinas Latfia. Wedi cyfnod yn St Petersburg, symudodd y teulu i Loegr yn 1929. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sant Pawl, Llundain, ac yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen. Priododd Aline Halban, née de Gunzbourg, ym 1956.
Enillodd Wobr Erasmus ym 1983.
Bu farw yn Rhydychen a chladdwyd ef ym Mynwent Wolvercote. Darparwyd gan Wikipedia