Canlyniadau Chwilio - Belli, Gioconda 1948-
Gioconda Belli
| dateformat = dmy}}Awdures a bardd o Nicaragwa yw Gioconda Belli (ganwyd 9 Rhagfyr 1948) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nofelydd ac yn ymgyrchydd o fri.
Fe'i ganed yn Managua ar 9 Rhagfyr 1948 i deulu cyfoethog a hanai'n rhannol o dde'r Eidal. Aeth i ysgol breswyl yn Sbaen, lle graddiodd o Ysgol Frenhinol Santa Isabel ym Madrid, ac astudiodd hysbysebu a newyddiaduraeth yn Philadelphia. Pan ddychwelodd i Nicaragwa, priododd a chafodd ei merch gyntaf pan oedd yn 19 oed.
Wedi iddi adael y coleg, fe'i cyflogwyd gan Pepsi-Cola, yn rhan o'r adran hysbysebu. Trwy un o'i chydweithwyr yn yr asiantaeth hysbysebu, cyfarfu Belli â Camilo Ortega, a gyflwynodd hi i'r Sandinistas ac ymunodd â'r grŵp. Yn 1970, ymunodd Belli â'r frwydr yn erbyn unbennaeth y teulu Somoza; cafodd ei derbyn yn rhan o'r mudiad gan Leana, gwraig Camilo. Cyhoeddwyd gwaith Belli ar gyfer y Mudiad ym Mecsico ym 1975. Oherwydd ei haelodaeth o'r mudiad, a'i gwaith yn erbyn y Somoza, bu'n rhaid iddi ffoi am ei bywyd i Fecsico yn 1975.
Dychwelodd yn 1979 ychydig cyn buddugoliaeth Sandinista, a daeth yn gysylltydd y wasg ryngwladol (FSLN) ym 1982 a'r cyfarwyddwr cyfathrebu gwladol ym 1984. Yn ystod y cyfnod hwnnw cyfarfu â Charles Castaldi, newyddiadurwr NPR Americanaidd, a phriododd y ddau yn 1987. Mae hi wedi bod yn byw yn Managua a Los Angeles ers 1990 ac mae bellach yn feirniadol iawn o'r llywodraeth bresennol. Darparwyd gan Wikipedia