Canlyniadau Chwilio - Barrios, Eduardo 1884-1963
Eduardo Barrios
Nofelydd ac awdur straeon byrion yn yr iaith Sbaeneg o Tsile oedd Eduardo Barrios (25 Hydref 1884 – 13 Medi 1963) sy'n nodedig am ei nofelau seicolegol.Ganwyd yn Valparaíso, Tsile, a mynychodd yr ysgol yn Lima, Periw. Dychwelodd i Tsile ac astudiodd yn yr Academi Filwrol yn Santiago de Chile. Gweithiodd yn swyddi masnachwr, asiant yn y diwydiant rwber, a chwiliwr adnoddau mewn sawl gwlad yn America Ladin. Ymsefydlodd yn Santiago yn 1913, ac yno gwasanaethodd yn weinidog addysg gyhoeddus ac yn gyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Tsile.
Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol gyda ''Del natural'' (1907), casgliad o straeon byrion naturiolaidd sy'n dangos dylanwad Émile Zola arno. Ymhlith ei nofelau mae ''El niño que enloqueció de amor'' (1915), ''Un perdido'' (1918), ''El hermano asno'' (1922). ''Tamarugal'' (1944), a ''Gran señor y rajadiablos'' (1948). Ymhlith ei weithiau eraill mae cyfres o sgetshis hunangofiannol, ''Páginas de un pobre diablo'' (1923), ac astudiaeth nofelaidd o seicoleg ddynol, ''Los hombres del hombre'' (1950).
Bu farw yn Santiago yn 78 oed. Darparwyd gan Wikipedia