Canlyniadau Chwilio - Barcelona
Barcelona
}}
:''Mae'r erthygl yma am ddinas Barcelona. Am y tîm pel-droed, gweler FC Barcelona.''
Dinas Barcelona (dyweder "Barselona") yw prifddinas cymuned ymreolaethol Catalwnia a thalaith Barcelona yng ngogledd-ddwyrain Sbaen, Saif ar lan Môr y Canoldir, rhyw 120 km o'r ffin a Ffrainc. Mae wedi'i leoli rhwng aberoedd afonydd Llobregat a Besòs, a'i ffin orllewinol yw mynyddoedd Serra de Collserola sydd a'i gopa uchaf yn 512 metr (1,680 tr) o uchter.
Gyda phoblogaeth o 1,593,075, Barcelona yw'r ail ddinas fwyaf yn Sbaen o ran maint, a'r 11eg o ran maint yn yr Undeb Ewropeaidd (disgwylir fod y ddegfed o ran maint ar ôl Brexit). Mae poblogaeth Ardal Ddinesig Barcelona yn 4.7 miliwn.
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau o bwysigrwydd rhyngwladol ym Marcelona, yn cynnwys Arddangosfeydd Rhyngwladol yn 1888 a 1929, y Chwaraeon Olympaidd yn 1992 a Fórum 2004 yn 2004. Mae hefyd yn ganolfan ffasiwn, addysg a masnach.
Mae gan Barcelona ddiwylliant cyfoethog ac amrywiol, a chaiff ei hystyried yn un o brif ganolfannau diwylliant ac yn un o gyrchfanau mwyaf poblogaidd Ewrop i ymwelwyr. Yma y ceir rhai o weithiau pensaernïol gorau'r byd, gan gynnwys gwaith y ddau bensaer Antoni Gaudí a Lluís Domènech i Montaner, a ddynodwyd gan UNESCO yn Safleoedd Treftadaeth y Byd. Darparwyd gan Wikipedia