Canlyniadau Chwilio - Arguedas, José María 1911-1969

José María Arguedas

Nofelydd, awdur straeon byrion, ac ethnolegydd Periwaidd oedd José María Arguedas (18 Ionawr 191128 Tachwedd 1969).

Ganwyd yn Andahuaylas yn ne Periw, yn fab i farnwr ar grwydr. Bu farw ei fam pan oedd yn 3 oed, a chafodd ei fagu am gyfnod gan y bobl frodorol, a dysgodd yr iaith Quechua cyn iddo ddysgu'r Sbaeneg. Yn ei ieuenctid, astudiodd gerddoriaeth a thraddodiadau y Quechua yn ogystal â diwylliant Sbaeneg Periw.

Astudiodd Arguedas ym Mhrifysgol San Marcos yn Lima, a gweithiodd yn y swyddfa bost o 1932 i 1937. Darlithiodd yn y Brifysgol Genedlaethol yn Sicuani o 1939 i 1941, a daliodd sawl swydd weinyddol cyn iddo ddechrau addysgu diwylliant Periw ym Mhrifysgol San Marcos yn 1959. Gwasanaethodd hefyd yn gyfarwyddwr y Tŷ Diwylliant o 1963 i 1964 ac yn gyfarwyddwr yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol o 1964 i 1969.

Ymhlith ei weithiau mae'r casgliad o straeon ''In Agua'' (1935) a'r nofelau ''Yawar fiesta'' (1941), ''Los ríos profundos'' (1958), ''El sexto'' (1961), a ''Todas las sangres'' (1964). Bu farw yn Lima yn 58 oed drwy hunanladdiad. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Relatos completos gan Arguedas, José María 1911-1969

    Cyhoeddwyd 1974
    Libro
  2. 2

    Formación de una cultura nacional indoamericana gan Arguedas, José María 1911-1969

    Cyhoeddwyd 1987
    Libro