Canlyniadau Chwilio - Andrić, Ivo 1892-1975

Ivo Andrić

Llenor yn yr iaith Serbo-Croateg o Iwgoslafia oedd Ivo Andrić (10 Hydref 189213 Mawrth 1975) sy'n nodedig am ei nofelau, straeon byrion, a barddoniaeth sy'n ymwneud â bywyd ym Mosnia yn ystod oes yr Otomaniaid. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1961 "am y grym epig a thrwy'r hyn y mae wedi olrhain themâu a darlunio tynghedau dynol a dynnwyd o hanes ei wlad". Ei gampwaith ydy'r nofel ''Na Drini ćuprija'' ("Y Bont ar Afon Drina"; 1945).

Ganwyd i deulu Croataidd ym Mosnia, rhanbarth a oedd ar y pryd dan reolaeth Awstria-Hwngari. Astudiodd ym mhrifysgolion Zagreb, Fienna, Jagiełło (Kraków), a Graz. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, y gyfrol o farddoniaeth ''Ex Ponto'', yn 1918. Ysgrifennodd y gwaith hwnnw yn y carchar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pryd gafodd ei arestio gan awdurdodau Awstria-Hwngari am iddo ymgyrchu dros annibyniaeth y Slafiaid Deheuol.

Yn sgil sefydlu Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (1918–29), yn ddiweddarach Teyrnas Iwgoslafia (1929–41), ymunodd Andrić â'r gwasanaeth diplomyddol. Treuliodd y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yn Rhufain, Bwcarést, Madrid, a Genefa. Cafodd ei benodi'n llysgennad i'r Almaen yn 1939, pum mis cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd, a daeth ei gyfnod yn y swydd honno i ben wedi i luoedd yr Echel oresgyn Iwgoslafia yn 1941. Dychwelodd Andrić i Beograd, dinas a oedd dan feddiannaeth yr Almaenwyr am weddill y rhyfel. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Andrić rai o'i weithiau pwysicaf, gan gynnwys ''Travnička hronika'' ("Stori Fosniaidd"; 1945) a ''Na Drini ćuprija''. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Un puente sobre el Drina gan Andrić, Ivo 1892-1975

    Cyhoeddwyd 1984
    Libro