Canlyniadau Chwilio - Alencar, José de, 1829-1877.

José de Alencar

Nofelydd, newyddiadurwr, a gwleidydd o Frasil oedd José Martiniano de Alencar (1 Mai 182912 Rhagfyr 1877) sydd yn nodedig am arloesi ''Indianismo'' yn llên Brasil. Ysgrifennodd hefyd ddramâu, ysgrifau, a barddoniaeth, ac mae ei weithiau llenyddol yn cyflwyno portread cyflawn o fywyd Brasil yng nghanol y 19g ac yn gyfraniad pwysig at hunaniaeth ddiwylliannol y wlad.

Ganed yn Fortaleza, prifddinas talaith Ceará, yng ngogledd-ddwyrain Ymerodraeth Brasil, i deulu a oedd yn weithgar yng ngwrthryfel Pernambuco (1817). Astudiodd y gyfraith yn São Paulo ac yn Recife cyn iddo ymsefydlu yn Rio de Janeiro i weithio i'r wasg. Yn 1856 cyhoeddodd ei ddwy gyfrol gyntaf, y nofel ''Cinco Minutos'' a'r casgliad o erthyglau ''Cartas sobre "A Confederação dos Tamoios"'' sydd yn ymdrin â'r gerdd honno gan Domingos José Gonçalves de Magalhães.

Dygwyd mudiad ''Indianismo'' gan ei nofel arloesol ''O Guarani'' (1857): dyma'r esiampl gyntaf yn llên America Ladin o bortread nodweddiadol Ramantaidd o fywyd brodorion yr Amerig, ac yn cynnwys yr enwau brodorol am blanhigion ac anifeiliaid a disgrifiadau sentimental o'u traddodiadau. Ymhelaethodd Alencar ar y thema honno mewn sawl nofel arall ac yn ei arwrgerdd ''Os Filhos de Tupã'', a ysgrifennwyd yn 1863 ond nas cyhoeddid nes y 1910au. Ymhlith ei nofelau eraill mae ''Senhora'' (1875) ac ''Encarnação'' (1893), y ddwy wedi eu lleoli yn y ddinas; y nofelau gwledig ''O Gaúcho'' (1870) ac ''O Sertanejo'' (1875); a'r nofelau hanesyddol ''As Minas de Prata'' (1862/1865–1866), ''Alfarrábios'' (1873), ac ''A Guerra dos Mascates'' (1873–1874). Ym myd theatr Rio de Janeiro, ysgrifennodd un ddrama hanesyddol, ''O Jesuíta'' (1875), a sawl comedi a drama.

Gwasanaethodd Alencar yn gynrychiolydd dros Ceará yn Siambr y Dirprwyon, a chafodd swydd gweinidog cyfiawnder yn llywodraeth Brasil o 1868 i 1870. Un o wrthwynebwyr yr Ymerawdwr Pedro II oedd Alencar, a fe'i trafodai yn feirniadol dan y ffugenw Erasmo, ar ffurf ''Ao Imperador: Cartas Políticas de Erasmo'' (1865) ac ''Ao Emperador: Novas Cartas Políticas de Erasmo'' (1866).

Teithiodd Alencar i Ewrop yn 1877 i geisio gwella'i afiechyd. Bu farw o dwbercwlosis yn Rio de Janeiro yn 48 oed. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, ''Como e Porque Sou Romancista'' (1893), dwy flynedd ar hugain wedi ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    O tronco do ipê : romance brasileiro / gan Alencar, José de, 1829-1877.

    Cyhoeddwyd 1967.
  2. 2

    Iracema : lenda do Ceará / gan Alencar, José de, 1829-1877.

    Cyhoeddwyd 1965.
  3. 3

    O garatuja / gan Alencar, José de, 1829-1877.

    Cyhoeddwyd 1965.
  4. 4

    O guarani : texto integral / gan Alencar, José de, 1829-1877.

    Cyhoeddwyd 1992.
  5. 5

    El Guarani / gan Alencar, José de, 1829-1877.

    Cyhoeddwyd 1910.
    Libro