Canlyniadau Chwilio - Alegría, Ciro., 1909-1967.

Ciro Alegría

Nofelydd yn yr iaith Sbaeneg o Beriw oedd Ciro Alegría (4 Tachwedd 190917 Chwefror 1967). Mae ei waith yn ymwneud â bywydau pobloedd brodorol Periw.

Ganwyd yn Sartimbamba yn nhalaith Sánchez Carrión, Periw, a chafodd ei fagu yn ardal Huamachuco. Astudiodd yng Ngholeg Cenedlaethol San Juan yn Trujillo. Yn 1930 ymunodd ag ymgyrch yr Alianza Popular Revolucionaria Americana (neu'r Apristas) dros ddiwygiadau cymdeithasol er lles y brodorion. Cafodd ei garcharu ddwywaith, yn 1931 ac yn 1933, a fe'i alltudiwyd i Tsile yn 1934.

Mae ei nofel gyntaf, ''La serpiente de oro'' (1935), yn portreadu bywyd y brodorion ar hyd Afon Marañón, a'i ail nofel, ''Los perros hambrientos'' (1938), yn disgrifio trafferthion y bugeiliaid brodorol yn ucheldiroedd Periw. Ei gampwaith ydy ''El mundo es ancho y ajeno'' (1941), stori epig am y frwydr dros dir rhwng llwyth o frodorion yr ucheldiroedd a thirfeddianwyr o dras Ewropeaidd. Cyhoeddodd hefyd gasgliad o straeon byrion, ''Duelo de caballeros'' (1963).

Bu'n byw yn Unol Daleithiau America o 1941 i 1948. Bu farw yn Lima yn 57 oed. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Fábulas y leyendas americanas gan Alegría, Ciro., 1909-1967.

    Cyhoeddwyd 1990
    Libro
  2. 2

    Novelas completas gan Alegría, Ciro., 1909-1967.

    Cyhoeddwyd 1959
    Libro
  3. 3

    El mundo es ancho y ajeno gan Alegría, Ciro., 1909-1967.

    Cyhoeddwyd 1973
    Libro
  4. 4

    El mundo es ancho y ajeno gan Alegría, Ciro., 1909-1967.

    Cyhoeddwyd 1917
    Libro
  5. 5

    Los perros hambrientos gan Alegría, Ciro., 1909-1967.

    Cyhoeddwyd 1945
    Libro
  6. 6

    Los perros hambrientos gan Alegría, Ciro., 1909-1967.

    Cyhoeddwyd 1968
    Libro
  7. 7

    El mundo es ancho y ajeno / gan Alegría, Ciro., 1909-1967.

    Cyhoeddwyd 1977.
    Libro