Canlyniadau Chwilio - Aldiss, Brian 1925-2007
Brian Aldiss
| dateformat = dmy}}Awdur a golygydd Seisnig oedd Brian Wilson Aldiss, OBE (; 18 Awst 1925 – 19 Awst 2017), a oedd yn fwyaf adnabyddus am nofelau a straeon byrion gwyddonias. Defnyddiodd yr enw Brian W. Aldiss neu Brian Aldiss, heblaw am ambell ffugenw yn ystod canol y 1960au.
Cafodd ei ddylanwadu yn fawr gan yr arloeswr gwyddonias H. G. Wells, a roedd Aldiss yn is-lywydd Cymdeithas ryngwladol H. G. Wells. Roedd yn gyd-lywydd (gyda Harry Harrison) Grŵp Gwyddonias Birmingham. Enwyd Aldiss yn Grand Master gan Awduron Gwyddonias America yn 2000, a fe'i sefydlwyd yn Oriel Enwogion Gwyddonias yn 2004. Derbyniodd ddau Wobr Hugo, un Gwobr Nebula a un Gwobr Goffa John W. Campbell. Ysgrifennodd y stori fer "Super-Toys Last All Summer Long" (1969), oedd yn sylfaen i ffilm Stephen Spielberg ''A.I. Artificial Intelligence'' a ddatblygwyd gan Stanley Kubrick. Roedd Aldiss yn gysylltiedig a'r Don Newydd Prydeinig o wyddonias. Darparwyd gan Wikipedia