Canlyniadau Chwilio - Agustini, Delmira 1886-1914

Delmira Agustini

Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Delmira Agustini (24 Hydref 18866 Gorffennaf 1914) sy'n nodedig am ei barddoniaeth ramantus yn nechrau'r 20g.

Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái. Er nad oedd yn aelod weithgar o fudiadau deallusol y wlad, cysylltir Agustini â ''La Generación del 900'', cenhedlaeth o lenorion o Wrwgwái yn nechrau'r 20g oedd yn cynnwys Julio Herrera y Reissig, María Eugenia Vaz Ferreira, Alberto Zum Felde, ac Angel Falco.

Yn ystod ei gyrfa lenyddol fer, cyhoeddodd ''El libro blanco (Frágil)'' (1907), ''Cantos de la mañana'' (1910), a ''Los cálices vacíos'' (1913). Dylanwadwyd ar ei cherddi cynnar, a gyhoeddwyd mewn cylchgronau llenyddol, gan ''modernismo'' llên America Ladin. Mae ei gwaith diweddarach yn enghraifft gynnar o'r themâu erotig a thanbaid sydd yn nodweddiadol o feirdd benywaidd Sbaeneg yr 20g.

Priododd Enrique Job Reyes yn 1913, a chawsant ysgariad ar ôl rhyw 10 mis. Cafodd Agustini ei llofruddio yn 27 oed gan Reyes. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd ''Obras completas'' (1924), sy'n cynnwys y cylch anorffenedig o gerddi ''El rosarío del Eros''. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Poesías completas / gan Agustini, Delmira 1886-1914

    Cyhoeddwyd 1971
    Libro
  2. 2

    Los cálices vacíos : poesías / gan Agustini, Delmira 1886-1914

    Cyhoeddwyd 1913
    Libro