Canlyniadau Chwilio - Adams, Richard 1920-2016

Richard Adams

Roedd Richard George Adams, (9 Mai 1920-24 Rhagfyr 2016) yn nofelydd Seisnig.

Ganwyd Adams yn Wash Common ger Newbury, Berkshire yn fab i Evelyn George Beadon Adams, meddyg, a Lilia Rosa (née Button ei wraig)

Addysgwyd Adams yng Ngholeg Bradford, Berkshire, a Choleg Worcester, Rhydychen, lle graddiodd gyda gradd mewn hanes modem. Tua diwedd gyrfa yn y gwasanaeth sifil (1948-74) ysgrifennodd Adams ''Watership Down'' (1972), a enillodd iddo Fedal Carnegie a daeth yn werthwr rhyngwladol gorau; fe'i ffilmiwyd yn 1978. Mae Watership Down yn llyfr plant am gartref cwningod, sydd yn cynnwys elfennau epig a naratif sy'n apelio hefyd at oedolion. Fe'i olynwyd gan ''Shardik'' (1974) a ''The Plague Dogs'' (1977; wedi ei droi'n ffilm ym 1982), sy'n gwrthwynebu y ddefnydd o anifeiliaid mewn labordai ymchwil. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys y nofelau ''The Girl in a Swing'' (1980), ''Maia'' (1984), a Traveller (1989); ysgrifennodd hefyd gasgliad o storïau byrion, ''The Iron Wolf'' (1980). Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Watership Down A novel by Richard Adams gan Adams, Richard 1920-2016

    Cyhoeddwyd 1972
    Libro