Canlyniadau Chwilio - Adams, Douglas 1952-2001
Douglas Adams
Llenor, dramodydd a cherddor o Loegr oedd Douglas Noel Adams (11 Mawrth 1952 – 11 Mai 2001). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur ''The Hitchhiker's Guide to the Galaxy'', a ddechreuodd ym 1978 fel comedi radio BBC cyn cael ei ddatblygu'n "driawd" o bum llyfr a werthodd dros 15 miliwn copi yn ystod ei oes, yn ogystal â chyfres deledu, sawl drama llwyfan, comics, a gêm gyfrifiadur, ac yn 2005, ffilm.Ysgrifennodd hefyd ''Dirk Gently's Holistic Detective Agency'' (1987) a ''The Long Dark Tea-Time of the Soul'' (1988), a chyd-ysgrifennodd ''The Meaning of Liff'' (1983), ''Last Chance to See'' (1990), a thair stori yng nghyfres deledu ''Doctor Who''. Cyhoeddwyd casgliad o'i waith wedi ei farwolaeth, gan gynnwys nofel di-orffenedig ''The Salmon of Doubt'' yn 2002.
Adnabyddir Adams gan ei ddilynwyr fel "Bop Ad" oherwydd ei lofnod annarllenadwy, Daeth Adams yn adnabyddus fel eiriolwr dros anifeiliaid a'r amgylchedd, roedd yn hoff o geir cyflym, cameráu, a'r Apple Mac, ac yn anffyddiwr pybyr, gan ddychmygu'r "sentient puddle" sy'n deffro bob bore ac yn meddwl iddo'i hun "Dyma fyd diddorol a ganfyddaf fy hun ynddi—twll diddorol a ganfyddaf fy hun ynddi—mae'n fy ffitio'n weddol dda, yntydi? Yn wir, mae'n fy ffitio'n syfrdanol o dda, mae'n rhaid y crewyd ef i mi fod ynddi!". Cysegrodd y gwyddonydd Richard Dawkins ei lyfr, ''The God Delusion'', i Adams, gan ysgrifennu wedi ei farwolaeth bod "gwyddoniaeth wedi colli cyfaill, llenyddiaeth wedi colli seren ddisglair, a gorila'r mynydd a'r rhino du wedi colli amddiffynnwr gwrol. Darparwyd gan Wikipedia