Canlyniadau Chwilio - Abreu, Caio Fernando, 1948-1996.
Caio Fernando Abreu
Nofelydd ac awdur straeon byrion Brasilaidd yn yr iaith Bortiwgaleg oedd Caio Fernando Abreu (12 Medi 1948 – 25 Chwefror 1996).Ganed yn Santiago, Rio Grande do Sul. Bywyd y dinasoedd sydd yn gefndir i'w ffuglen, ac mae ei gymeriadau yn aml yn profi ymddieithrwch cymdeithasol neu seicolegol. Dyn hoyw oedd Abreu, ac mae nifer o'i straeon yn portreadu'r ymateb chwyrn sydd gan gymdeithas yn erbyn cyfunrywioldeb. Yn ei nofel ''Onde andará Dulce Veiga?'' (1990) mae'n ymdrin â chlefyd HIV/AIDS a'i effaith ar gymdeithas fodern. Datganodd Abreu yn 1995 ei fod yn dioddef o AIDS, a bu farw o'r afiechyd hwnnw ym Menino, Porto Alegre, Rio Grande do Sul, yn 47 oed. Darparwyd gan Wikipedia